Rydym ni a Theatr y Sherman yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cyd-gynhyrchu’r perfformiadau cyntaf yn y byd o ddrama newydd Daf James, sef Tylwyth, a fydd yn agor yn Theatr y Sherman cyn teithio i theatrau ledled Cymru.
Croeso!
Theatr Genedlaethol Cymru yw’r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg. Rydym yn creu profiadau theatr beiddgar, uchelgeisiol, cynhwysol a chofiadwy wrth galon ein cymunedau mewn canolfannau theatr traddodiadol a lleoliadau annisgwyl ledled Cymru a thu hwnt.

Y Cylch Sialc
Der kaukasische Kreidekreis (The Caucasian Chalk Circle)
gan Bertolt Brecht
Trosiad gan Mererid Hopwood
gyda cherddoriaeth wreiddiol fyw gan Gwenno
Llygoden yr Eira
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, yn seiliedig ar gynhyrchiad gwreiddiol Snow Mouse gan the egg a Travelling Light.
Gyda chefnogaeth Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe.
Dewch i gadw’n gynnes yn yr eira mawr ac ymuno â ni ar antur yn y goedwig hudol. Dyma stori aeafol swynol i blant bach, yn llawn cerddoriaeth, pypedwaith a chwarae.
Pecyn Addysg Y Cylch Sialc
Dyma’r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru droedio i fyd Bertolt Brecht ac rydym yn falch iawn o gydweithio gyda CBAC i gyflwyno’r pecyn addysg hwn er mwyn cyfoethogi profiad pobl ifanc wrth iddyn nhw astudio a gwylio’r cynhyrchiad newydd hwn.
Cymryd Rhan
Eisiau gyrfa ym myd y theatr? Eisiau gwybod mwy am y cyfleon sydd ar gael? Rydym yn cynnig cyfleon amrywiol i chi gymryd rhan…
NEWYDDION
Y Diweddaraf
Mae’r holl glybiau drama rydym yn eu cynnal ar y cyd â’n partneriaid yn ail-ddechrau’r mis hwn ac mae llwythi o weithgareddau cyffrous ar y gweill ar gyfer y tymor newydd.
Mae Criw Brwd a ninnau’n falch iawn o gyhoeddi’r cynhyrchiad newydd Pryd Mae’r Haf? mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar.
Ynghyd â’n cyd-gynhyrchwyr Theatr Iolo rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn ni’n teithio’r sioe Llygoden yr Eira y Nadolig hwn – y tro cyntaf i’r ddau gwmni weithio mewn partneriaeth.
- Gawn ni ymuno plis?💁♀️ 🎹Dros yr wythnosau diwethaf, mae criw o bobl ifanc wedi bod yn ysgrifennu sioeau cerdd cwt… https://t.co/cXdfmHZtWr 12:22 20/05/2022
Warning: Invalid argument supplied for foreach() in /home/theatr/V67V6VHP/htdocs/wp-content/plugins/enjoy-instagram-instagram-responsive-images-gallery-and-carousel/library/enjoyinstagram_shortcode_grid.php on line 31

Mynediad i berfformiad – beth bynnag fo’r iaith
Gallwch ddysgu mwy am ddefnyddio’r ap yma
